Hau hedyn cariad ymysg yr henoed.
Byddin yr Iachawdwriaeth.

This is a Welsh language website provided on behalf
of the Salvation Army in Gwynedd and Anglesey.
For Information in English click here    

Byddin yr Iachawdwriaeth - Gwynedd a Môn
croeso
gwybodaeth lleol
newyddion
cysyllt
  Hau hedyn cariad ymysg yr henoed.
map


Gan FreeFind


» Caernarfon
» Caergybi
» Pencadlys D.U.
» Gwefan Rhyngwladol


» Tri Cam i'r Bywyd
» beibl.net
» Rhestr gweddi


» Hanes Cynnar
» Adroddiad Cenhadaeth
» Gwaith Heddiw
» Symbolau


Mae’r Fyddin yn helpu nifer o’r henoed bob dydd a phob nos ... boed yn gnoc gyfeillgar ar y drws ffrynt neu yn gyfarfod rheolaidd mewn clwb cinio. Rydym yn darparu prydau bwyd poeth , a hyd yn oed yn cynnig gwasanaeth trin gwallt yn rhad ac am ddim mewn ambell i ganolfan. Pan ddaw afiechyd yn ddirybudd byddwn yno ym aml i helpu ... helpu gyda’r pethau bach megis siopa, picio i fewn gyda rhywbeth blasus i’w fwyta, neu gario neges oddi wrth ffrind ... gall hyn oll wneud y byd o wahaniaeth i hen berson sy’n byw ar ei ben ei hun.

Mae llawer o henoed yn methu dygymod a byw yn eu cartrefi. Yn anffodus mae talu am ofal preifat ymhell tu hwnt i’w poced, ac mae gofal y gwasanaeth lles yn annigonol. Felly mae’r angen am cartrefi sy’n cynnig gofal warden, ac am cartrefi preswyl yn cynyddu bob blwyddyn.


Y mae darpariaeth i’r oedrannus yn rhan bwysig yng ngwaith y Fyddin ym Mhrydain . Agorwyd ‘Cartref yr Hwyr’ cyntaf yng Nghaint yn 1910.
    Gwaith y Fyddin:


• Y Fyddin ym Mhrydain

• Gwaith yng Nghymru

• Holi ac Ateb

• Digartref

• Argyfwng

• Henoed

• Ailgylchi Dillad

• Teuluoedd

Mae'r Uwchgapten Ifor Jackson yn rheoli'r safle hwn fel gwasanaeth i Fyddin yr Iachawdwriaeth, Gwynedd a Môn. Nodwch nad barn swyddogol Byddin yr Iachawdwriaeth o anghenraid yw'r farn o fynegir ar y safle hwn. Diolch yn fawr i freefoto.com a bravenet.com ar gyfer ein gwasanaethau.

Croeso - Gwybodaeth Lleol - Newyddion - Cysyllt