Byddin yr Iachawdwriaeth.
Hanes cynnar.

This is a Welsh language website provided on behalf
of the Salvation Army in Gwynedd and Anglesey.
For Information in English click here    

Byddin yr Iachawdwriaeth - Gwynedd a Môn
croeso
gwybodaeth lleol
newyddion
cysyllt
  Hanes cynnar y Fyddin
map


Gan FreeFind


» Caernarfon
» Caergybi
» Pencadlys D.U.
» Gwefan Rhyngwladol


» Tri Cam i'r Bywyd
» beibl.net
» Rhestr gweddi


» Hanes Cynnar
» Adroddiad Cenhadaeth
» Gwaith Heddiw
» Symbolau

Yn ddyn ifanc, daeth William Booth i garu ei gyd-ddyn trwy weithio mewn siop wystlo. Trodd yn Gristion ac yn bregethwr Methodist, yna'n efengylwr ar ei liwt ei hun. Un nos Sadwrn arhosodd i wrando ar genhadon y tu allan i dafarn The Blind Beggar yn Llundain. Caffodd wahoddiad ganddyn nhw i bregethu; cyn hir roedd torf fawr wedi dod at ei gilydd i wrando.
Wedyn, gwahoddodd y cenhadon ef i arwain ymgyrch mewn pabell mewn mynwent Crynwyr yn Whitechapel. Pregethodd Booth â thanbeidrwydd syml am ei argyhoeddiad mai ysbrydol ac nid materol ydi angenrheidiau dyfnaf dyn. Fyddai'r byd byth yn iawn oni fyddai dyn yn iawn gynta, a dim ond trwy Grist y medrai hyn ddigwydd.


Gyda llwyddiant ymgyrch y babell, sylweddolodd Booth ei fod wedi darganfod beth oedd pwrpas Duw ar gyfer ei fywyd. Tyfodd The Christian Mission o'r ymgyrch hwn. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1878 roedd Booth, ei fab Bramwell a Railton yn trafod yr adroddiad blynyddol a oedd yn cyfeirio at y "mission" fel "volunteer army"'. Cwynodd rhywun am yr ymadrodd volunteer" ac wedi ei ysbrydoli am foment, croesodd Booth y gair "volunteer" allan, a rhoi'r gair "Salvation" yn ei le.

Tyfodd y mudiad newydd ym mhob rhan o Loegr, a daeth i Gymru. Daeth 'Byddin yr lachawdwriaeth' i fri yng Nghaernarfon, a bu cynnydd mawr. Cyhoeddwyd papur Cymraeg, y 'Gad Lef', yng Nghaernarfon, bu llawer o ddiddordeb ynddo.
Dechreuodd aelodau Cymreig wisgo gwisg arbennig, a chyn hir roedd y merched yn gwisgo'r boneti yr oedd Mrs Booth wedi'u cynllunio ar gyfer amddiffyn y pen mewn cyfarfodydd awyr-agored. Eto, er gwaethaf llawer o wrthwynebiad gwelid fflag y Fyddin ar bob stryd yn nhrefi a phentrefi Cymru.

Er iddo bregethu am atebion ysbrydol i broblemau roedd Cadfridog Booth yn ymwybodol iawn bod angen cymorth materol hefyd. Lle bynnag yr âi'r Fyddin, âi ei waith cymdeithasol, a chredai William Booth fod y gwaith nwn yn codi'n naturiol o gonsyrn yr aelod. Lledodd y gwaith ar hyd ac ar led y byd nes fod y Fyddin yn gweithio mewn ymron i gant o wledydd.
Ymwelodd Cadfridog William Booth â Chymru lawer gwaith, gan ddod i'r pencadlys Cymreig yng Nghaernarfon, lle pregethodd yn y Pafiliwn.
Ei neges ddigyfnewid oedd grym Duw trwy Grist a newid calonnau a meddyliau dyn. Heddiw mae Byddin yr lachawdwriaeth yn fudiad byd-eang, mewn byd sy'n newid mor gyflym, ... ond yr un yw ei neges bob amser, sef y gall dynion gael eu cymodi â Duw trwy ffydd a maddeuant
    Hanes a Symbolau:


• Hanes cynnar y Fyddin

• Y faner (fflag)

• Y bathodyn("crest")

Mae'r Uwchgapten Ifor Jackson yn rheoli'r safle hwn fel gwasanaeth i Fyddin yr Iachawdwriaeth, Gwynedd a Môn. Nodwch nad barn swyddogol Byddin yr Iachawdwriaeth o anghenraid yw'r farn o fynegir ar y safle hwn. Diolch yn fawr i freefoto.com a bravenet.com ar gyfer ein gwasanaethau.

Croeso - Gwybodaeth Lleol - Newyddion - Cysyllt