|
|
 |
Mae’r Fyddin yn gangen o’r Eglwys Gristnogol, ac mae ein Swyddogion yn weinidogion cynabyddedig yr efengyl. Rydyn hefyd yn asiantaeth cymdeithasol, yn ail i’r llywodraeth ei hunan yn darparu gwasanaerhau
cymdeithasol a chymunedol ym Mhrydain Fawr. Mae ein gwaith yn cael ei ysbrydoli gan ofal Cristnogol.
Bob dydd bydd ein swyddogion a’n gwirfoddolwyr, ein ffrindiau a’n teuluoedd yn estyn cymorth i aelodau mwyaf difreintiedig ein cymdeithas ac yn cynnig gobaith newydd i fywydau pobl a golodd pob gobaith.
Mae’r gwaith sy’n hwynebu yn fawr oherwydd daw Byddin yr Iachawdwriaeth yn ail i’r llywodriaeth ym maes cynnig gwaith cymdeithasol.
Mae ein llwyddiant ym maes gwaith cymdeithasol i’w briodoli i gefnogaeth y cyhoedd. Pobl yw’r rhain sy’n credu, fel y gnawn ni, ein bod ni gyd yn medru gwneud rhywbeth - pa mor fychan bynnag y bo -
i wella bywyd rhywn arall.
A oeddech chi'n gwybod mai ni erbyn hyn yw'r sefydliad mwyaf sy'n darparu lles cymdeithasol mwyaf amrywiol yn y byd?
Efallai y byddwch yn synnu clywed bod Byddin yr Iachawdwriaeth, bob dydd, yn gwneud hyn:
- Rhoi bwyd i'r digartref a'r anghenus a rhoi bwyd yn rhad i'r henoed a'r anabl.
- Darparu ar gyfer y digartref gan ddosbarthu parseli bwyd, dillad a dodrefn i bobl mewn angen.
- Chwilio am bobl sydd wedi colli cysylltiad â'u teuluoedd, gan lwydd 85% o'r adeg.
- Ymweld â phobl sy'n gaeth i'w cartrefi, pobl mewn ysbytai, cartrefi nyrsio a phobl yn y carchar.
- Cynnig cymorth i bobl y stryd trwy dimau arbennig sy'n aml yn pontio y digartref ac ailsefydlu.
|
|