|
|
 |
Mae'r Uned Efengylaidd Ynys Môn yn cyfarfod yng Nghaergybi. Mae cyfarfodydd awyr agored hefyd.Mae'r prif addoliad yn Saesneg.
Cyfarfodydd yng Nghaergybi
Mae Ynys Môn - Mam Cymru yn llechu yng nghongl gogledd-orllewin Cymru. Gyda 125 o filltiroedd o arfirdir ysblennydd a mynyddoedd Eryri yn gefndir, mae'n le cyffrous sy'n disgwyl i rywun ei ddarganfod ar unrhyw
adeg o'r flwyddyn.
Ynys hynafol yw Ynys Môn, gyda chyfoeth o draddiodiad a hanes. Lle bynnag yr ewch chi, mae straeon i'w hadrodd ac olion ddoe i'w canfod. Mae'r diwylliant Cymreig yn rhan hanfodol o'r ynys fyw heddiw a chewch glywed a gweld
yr iaith Gymraeg, un o ieithoedd hynaf Ewrop, lle bynnag yr ewch.
‘Medra'
Hen enw traddodiadol Ynys Môn ydy Gwlad y Medra.
Pan oeddech chi'n gofyn i bobl Ynys Môn ers talwm, " Fedrwch chi wneud rhywbeth?" yr ateb bob amser oedd, "Medra!"
|
|