|
|
 |
Mewn unrhyw achos difrifol bydd Byddin yr Iachawdwriaeth yno yn barod i gysuro'r diddefwyr a'u teuluoedd. Lockerbie, Clapham, Zeebrugge, Aberfan, Kegworth , Hillsborough a Kegworth ... mae’r rhain i gyd yn dod â theimlad o fraw i galon y bobl hynny sy’n gallu dwyn i gof y golled a’r difrod. Cawn gyfle i helpu’r rhai a achubwyd, yr achubwyr a’r teuluoedd niferus a ddioddefodd cymaint.
Mae’r achubwyr sy’n gweithio i’r gwasanaethau argyfwng o dan bwysau emosiynol ofnadwy. Mae gweithio ynghanol difrod a distryw gwaedlyd yn gadael ei ôl ar unigolyn. Darganfyddom mae’r cymorth ymarfero; gorau y gallem ei gynnig i’r gweithwyr oedd treulio amser yn siarad a gwrando wrth iddynt gymeryd hoe fach cyn dychwelyd at eu tasg.
Mor aml nid yw gwir arwyr trychinebau yn cyrraedd penawdau’r papur dyddiol gan mae pobl gyffredin ydynt sydd ag angen cefnogaeth, tosturi ac weithiau ysgwydd i gynnal baich. Dyna phaham y mae Byddin yr Iachawdwriaeth wrth law o hyd.
|
|