|
|
|
|
Pan fyddwch yn rhoi’r dillad nad oes mo’u hangen mwyach i Gynllun Ailgylchu Dillad Byddin yr Iachawdwriaeth, mae proses gymhleth on trefnus yn cychwyn. Yn gyntaf, bydd cerbyd yn casglu’r dillad ac yn ei gludo i’r canolfan ailgylchu yn swydd Northampton. Yma, bydd y dillad yn cael eu didoli, yn gyntaf i grwpiau o ddillad a all gael ei gwisgo eto ac yna i grwpiau o ddillad i’w ailgylchu: yn ogystal rhaid eu graddio yn ôl ei hansawdd a’u math. |
|||
|
Defnyddir y dillad a dderbynnir i ddiwallu angen pobl ar raddfa leol genedlaethol yn gyntaf, ac yna ystyrir yr angen mewn gwledydd eraill megis Affrica, India, Pacistan a gwledydd datblygedig eraill yn Nwyrain Ewrop. Er mewn cynnal y teimlad o hunan barch ymhlith yr anghenus mae tal bach yn cael ei godi am y dillad, a manteisir ar y strwythurau sydd eisoes yn bodoli yn y gwahanol wledydd yngln â dosbarth dillad. Daw hyn a llawer o fanteision yn ei sgil, megis cefnogaeth i economi’r wlad drwy ddarparu swyddi. |
![]() |
|||||||||||||
![]() |
||||
|
Mae’r dillad sy’n anaddas i’w gwisgo eto yn cael ei ailgylchu i wneud defnydd stwffio matras, padin dodrefn, neu baneli amsugno sn; tra mae gwlân yn cael ei ail-nyddu i greu dillad sydd ”cystal â newydd”
a blancedi gwlân. Mae dillad cotwm yn cael eu defnyddio fel cadachau glanhau i ddiwydiant Prydeinig, Mae hyn oll yn ein galluogi ni i ail-fuddsoddi’r holl elw sicrhau gwell bywyd i lawer o bobl, yn ogystal
â chreu gwaith i’r diwaith yn ein gwlad.
Ystyriwn drwy’r amser wrth i chi osod eich dillad yn ein banciau dillad ni mae llai o wastraff yn cael ei gladdu yn ein tomennydd sbwriel, ac mae peth o adnoddau naturiol y ddaear yn cael eu harbed er lles
cenedlaethau’r dyfodol
|
|||||||||||
![]() |
|||||||||||
| Manylion Pellach (Saesneg) |